Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Ar ôl dros 30 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu, cychwynnodd Sue Jeffries ei chwmni hyfforddi ei hunan yn arbenigo mewn prentisiaethau ar gyfer swyddi’n amrywio o drefnu gwisgoedd i effeithiau arbennig. A hithau’n rheolwr gyfarwyddwr Sgil Cymru, sy’n rhan o’r diwydiant yn Stiwdios Pinewood yn Rhymni, mae Sue’n brif asesydd ar gyfer tair prentisiaeth yn y cyfryngau ar lefelau 3 a 4.

Mae gan Sue lu mawr o gysylltiadau ac mae’n defnyddio arbenigwyr yn y diwydiant fel aseswyr llawrydd i gynnig hyfforddiant hyblyg sy’n ateb gofynion y BBC, ITV a chwmnïau annibynnol.