Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Roedd yn anodd cyflogi digon o arbenigwyr technoleg gwybodaeth i ymdopi â’r holl newidiadau yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Yr ateb oedd datblygu rhaglen brentisiaethau bwrpasol fel eu bod yn gallu recriwtio, hyfforddi a chadw pobl ifanc oedd â sgiliau TG a’r sgiliau eraill angenrheidiol.

Mewn cydweithrediad â’r darparwr hyfforddiant Acorn Learning Solutions, recriwtiwyd 32 o brentisiaid o dan y rhaglen ac mae 19 yn gweithio i’r sefydliad ar hyn o bryd. Mae’r IPO yn cyflogi dros 1,150 o bobl, yng Nghasnewydd yn bennaf. Mae’n canolbwyntio ar hybu cyflogaeth ymhlith pobl ifanc yr ardal ac mae’n cydweithio â cholegau ac ysgolion lleol wrth recriwtio. Y bwriad yw cymryd 20 o brentisiaid yr hydref hwn.