Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae’r ffaith fod y farchnad am weithwyr medrus yn mynd yn fwyfwy cystadleuol yn un rheswm pam y mae Tata Steel yn buddsoddi yn ei raglen Brentisiaethau. Mae’r cwmni’n creu “llif parod o fedrusrwydd” er mwyn sicrhau bod ganddo’r gweithwyr medrus y mae arno’u hangen. Mae’n cyflogi dros 6,300 o bobl yng Nghymru, yn cynnwys 211 o brentisiaid a bu ganddo raglen Brentisiaethau ers dros hanner canrif.

Mae’r cwmni’n cydweithio â Choleg Pen-y-bont i gyflenwi pum fframwaith o Brentisiaeth Sylfaen mewn Prosesu Metal a Gwaith Cysylltiedig i Brentisiaethau Uwch mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu.