Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Celtica Foods

Yr uchelgais i fod yn gwmni gorau’r sector oedd yr hwb i gwmni cigydda a phrosesu cig yng ngorllewin Cymru i sefydlu academi hyfforddi fewnol i ddatblygu gweithwyr medrus.

Mae gan Celtica Foods o Cross Hands, sy’n rhan o gwmni cyfanwerthu bwyd annibynnol Castell Howell, weithlu o 75, mae wedi hyfforddi 45 o brentisiaid dros y pedair blynedd diwethaf ac mae ganddo 17 ohonynt ar hyn o bryd.

Mae’r cwmni’n cyflenwi cig i dafarndai a bwytai annibynnol, grwpiau lletygarwch, arlwywyr contract, ysbytai ac ysgolion.

Cafodd help gan y darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian i ddatblygu’r academi er mwyn denu rhagor o bobl ifanc a chynyddu sgiliau’r gweithlu cyfan. Mae’r rhaglenni a gynigir yn amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau'r Diwydiant Bwyd a Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd.