Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Freight Logistics Solutions

Mae prentisiaid wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad cwmni llwyddiannus Freight Logistics Solutions, cwmni rheoli cadwyni cyflenwi sy’n arbenigo mewn logisteg.  

Ffurfiwyd y cwmni sydd â’i ganolfan yng Nghwmbrân, gan y rheolwr gyfarwyddwr Ieuan Rosser ym mis Mai 2016, ac mae’n cyflogi 25 o bobl, yn cynnwys chwech o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes gyda Hyfforddiant Torfaen.

Yn cyd-fynd â’r Brentisiaeth, mae rhaglen hyfforddi fewnol sy’n canolbwyntio ar reoli cadwyni cyflenwi a logisteg.

Ac yntau’n cychwyn ar ei drydedd flwyddyn, mae’r cwmni wedi ennill nifer o wobrau i gwmnïau newydd a’i nod yw dyblu ei drosiant a’i staff cyn pen pum mlynedd.

Caiff prentisiaid eu recriwrio ar sail eu potensial, cânt brofiad o wahanol adrannau yn y busnes a’u hannog i wneud awgrymiadau, i fod yn ddyfeisgar, i brofi pethau newydd ac i ddatblygu’n aelodau amhrisiadwy o dîm.