Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Inspiration Lifestyle Services

Mae darparwr gofal arbenigol o orllewin Cymru’n ymfalchïo yn ei ffordd o ddysgu a datblygu staff ar bob cam o’u llwybr gyrfa.

Mae Inspiration Lifestyle Services, Caerfyrddin yn gofalu am bobl sydd ag anableddau dysgu ac, o bosib, broblemau iechyd meddwl hefyd, trwy wasanaethau preswyl a gwasanaethau yn y cartref ledled de Cymru.

Mae 14 o brentisiaid yn rhan o weithlu’r cwmni o 62 o weithwyr sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel i ateb gofynion amrywiol y cleientiaid. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cyflogi 35 o brentisiaid.

Mewn cydweithrediad â PRP Training, mae’r cwmni’n cynnig Rhaglenni Prentisiaethau’n amrywio o Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Lefelau 2 a 3 o dan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) i Ddiplomas mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gwasanaethau Gofal ar Lefel 5 ac Arwain Tîm Lefel 2.