Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

James Carter

Mae James Carter, 18 oed, yn cael trefn ar ei fywyd eto ar ôl cyfnod gwael pryd y bu’n ddigartref am saith wythnos, camddefnyddio sylweddau a threulio diwrnod yn y carchar.

Y trobwynt i James, o Gasnewydd, oedd cael ei gyflwyno i’r rhaglen Hyfforddeiaeth: Ymgysylltu gydag Itec Skills and Employment. Dechreuodd fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r heriau enfawr oedd wedi’i wynebu ers iddo gael ei roi i’w fabwysiadu.

Erbyn hyn mae’n gweithio tuag at NVQ Lefel Un mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Hyfforddeiaeth Lefel Un mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel rhan o’i gymhwyster, mae’n fentor ieuenctid gydag Itec ac yn llysgennad elusen.

Gobaith James yw y bydd ei stori ef yn helpu pobl ifanc eraill i ddod trwy gyfnodau drwg.