Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Josie Pether

Mae rhaglen Hyfforddeiaeth: Ymgysylltu gyda Hyfforddiant Llwybrau, adran dysgu seiliedig ar waith Grŵp Colegau NPTC, wedi trawsnewid bywyd Josie Pether.

Mae awtistiaeth ar Josie, 19 oed, o Lyn-nedd a gall unrhyw newidiadau yn ei bywyd, yn enwedig cwrdd â phobl newydd, achosi gorbryder a phyliau o banig.

Diolch i Hyfforddiant Llwybrau, cafodd leoliad gwaith manwerthu gyda Shaw Trust, sy’n elusen Brydeinig. Roedd mor hoff o’r lleoliad fel na chollodd hi ddim diwrnod o waith mewn pum mis ac erbyn hyn mae wedi symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn manwerthu.

Mae wedi dod mor hyderus fel ei bod yn gallu gweithio ar lawr y siop a defnyddio’r til, sy’n syndod mawr o ystyried na allai edrych yn llygaid pobl pan ddechreuodd.