Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Kirsty Keane

‘Trysor o diwtor’ yw disgrifiad ACT Limited o Kirsty Keane ac mae’n hawdd gweld pam y mae’r ferch 26 oed mor uchel ei pharch.

Bu Kirsty’n gweithio gyda phobl ifanc 16-18 oed fel tiwtor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Blynyddoedd Cynnar ers 2015 ac mae wedi cefnogi 91 o ddysgwyr trwy Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal gyda phob un ohonynt yn camu ymlaen i swydd neu hyfforddiant pellach.

Un rheswm dros hyn yw bod Kirsty yn rhoi amser i’w dysgwyr, yn gwrando ar eu gobeithion, eu breuddwydion a’u hofnau ac, ar yr un pryd, yn trefnu profiadau unigryw iddynt gan ragori ar ddisgwyliadau pobl sydd, yn aml, ag anghenion a rhwystrau cymhleth.

Dywedodd Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus ACT, Jayne McGill-Harris: “Mae Kirsty yn berson angerddol, cefnogol a mawr ei gofal ac mae ei ffordd o weithio, ei defnydd o arferion gorau a’i llwyddiant wedi helpu i gryfhau ein rhaglenni eraill ni hefyd.”