Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Lauren Richards

Daeth Lauren Richards, 20 oed, yn batrwm i eraill ac yn llysgennad dros Urdd Gobaith Cymru, dros brentisiaethau cyfrwng Cymraeg a thros annog plant a phobl ifanc yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr i wneud mwy o ymarfer corff.

Prentis Datblygu Chwaraeon gyda’r Urdd, sy’n datblygu cyfleoedd ym maes chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc, yw Lauren sy’n byw ym Maesteg. Mae eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Gweithgareddau a nifer o gymwysterau ym maes chwaraeon.

Mae wrth ei bodd o gael swydd mor amrywiol sy’n cynnwys cydweithio â Pêl-rwyd Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Nofio Cymru. O ganlyniad i’w gwaith mae dros 450 o blant a phobl ifanc yn cadw’n heini neu’n actif mewn sesiynau wythnosol trwy gyfrwng y Gymraeg.