Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Legal & General Investment Management

Diolch i ddull gweithredu unigryw, mae LGIM Retail o Gaerdydd yn dechrau elwa ar ei fuddsoddiad yn ei dîm rheoli presennol.

Trwy gydweithio’n agos â TSW Training, mae adain fuddsoddi grŵp Legal & General wedi llunio Rhaglen Brentisiaethau sydd wedi datblygu sgiliau arwain 18 o’i rheolwyr.

Trwy gynnig Prentisiaethau Uwch Lefel 4 a 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, mae’r elfen seiliedig-ar-waith yn y rhaglen yn cyfuno rheoliadau sefydliad-benodol y sector â’u gofynion hyfforddi mewnol nhw’u hunain i gynnig cymhwyster sy’n ystyrlon i’r busnes.

Yn ôl LGIM Retail, o Gaerdydd, un peth sy’n gyfrifol i raddau helaeth am y llwyddiant yw eu bod wedi hyfforddi dau o’u staff nhw eu hunain i fod yn aseswyr trwy ennill Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol.