Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Lelo Skip Hire

Mae trosiant busnes teuluol bach o’r gogledd, Lelo Skip Hire, wedi dyblu ers iddo recriwtio’i brentis cyntaf bedair blynedd yn ôl.

I ddechrau, cymerodd Oswyn Jones, sy’n rhedeg y cwmni o Gorwen, ei fab 16 oed Daniel i weithio i’r cwmni ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru yn 2014.

Ers hynny, mae Daniel wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy i wneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau gyda chymorth Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y darparwr dysgu o’r Trallwng.

Wrth i wybodaeth a sgiliau Daniel gynyddu, mae cwsmeriaid y cwmni wedi cynyddu hefyd. Gwelwyd cynnydd o 195% yn y trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’w wybodaeth ac mae hynny’n golygu bod yn cwmni’n gallu gwneud mwy o waith.

Mae Lelo Skip Hire yn llogi sgipiau, gan eu danfon a’u casglu ledled y gogledd-ddwyrain.