Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Magellan Aerospace UK

Ar ôl gweithio law yn llaw â darparwr dysgu i ddatblygu cyrsiau prentisiaethau arbenigol, mae cwmni awyrofod o Wrecsam yn paratoi ar gyfer dyfodol disglair.

Mae Magellan Aerospace wedi buddsoddi’n drwm mewn prentisiaethau a, thrwy gydweithio’n agos â Choleg Cambria, llwyddodd y cwmni i ddatblygu gweithlu deinamig sy’n gallu hawlio’u lle ar flaen y gad mewn diwydiant byd-eang cystadleuol.

Mae gan y cwmni dros 400 o weithwyr sy’n dylunio, yn peiriannu ac yn cynhyrchu cyfosodiadau a chydrannau awyr-beiriannau ac awyr-strwythurau ar gyfer marchnadoedd awyrofod, nwyddau soffistigedig ar gyfer marchnadoedd milwrol a’r gofod, nwyddau ar gyfer cynhyrchu ynni ar raddfa ddiwydiannol a nwyddau arbenigol.

Datblygwyd rhaglenni hyfforddi Gweithgynhyrchu Peirianneg a Gweinyddu Busnes dros yr 20 mlynedd diwethaf ac, ar hyn o bryd, mae gan y cwmni 74 o brentisiaid ar y llyfrau.

“Mae Magellan Aerospace yn batrwm o gwmni ym maes prentisiaid,” meddai Vicky Barwis, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg Cambria.