Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Mariska Hutton

Mae merch ifanc sydd wedi goresgyn llawer o rwystrau a heriau yn ei bywyd wedi defnyddio rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 Llywodraeth Cymru fel man cychwyn ar gyfer ei llwybr gyrfa.

Gadawodd Mariska Hutton, 20 oed, o Dwynyrodyn, Merthyr Tudful, yr ysgol heb gymwysterau ond mae wedi llwyddo i gwblhau’r Hyfforddeiaeth ac ennill Tystysgrif NVQ Lefel 1 mewn Sgiliau Manwerthu trwy’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus.

Bu’r cymwysterau hyn o gymorth iddi gael lleoliad yn siop y Groes Goch Brydeinig ym Merthyr Tudful ac mae’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at swydd lawn amser.

 “Rwy wedi gweithio’n galed dros y deunaw mis diwethaf i wella fy mywyd,” meddai Mariska, a aned yn Ne Affrica a symud i Brydain pan oedd yn 15 ar ôl cael ei mabwysiadu.