Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Michael Ramsden

Mae Michael Ramsden, a fu’n brentis ei hunan, yn ymroi i sicrhau bod ei ddysgwyr yn gwireddu eu potensial ac yn symud ymlaen yn eu gyrfa trwy fanteisio ar y llu o gyfleoedd a geir trwy brentisiaethau.

Cafodd Michael, 31 oed, o Gaerdydd, ei hyfforddi’n gogydd ac aeth ymlaen i ddatblygu ei yrfa mewn dysgu seiliedig ar waith fel swyddog hyfforddi gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian am bedair blynedd.  Manteisiodd ar y cyfle i wella’i sgiliau trwy gynrychioli Tîm Coginio Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Bu’n gyfrifol am gyflenwi prentisiaethau o safon uchel mewn Coginio Proffesiynol a Choginio Celfydd gan feithrin perthynas ardderchog â chyflogwyr, yn cynnwys Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

“A minnau wedi bod yn brentis fy hunan, rwy wedi gweld y manteision,” meddai. “Felly, rwy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad o brofiad i fy nysgwyr i’w helpu i lwyddo yn eu dewis faes.”