Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Pisys.net

Mae Prentisiaethau’n rhan hanfodol o raglen recriwtio cwmni sy’n cynnig cefnogaeth a gwasanaethau TG fforddiadwy i fusnesau ledled Prydain o’i brif swyddfa yn Abertawe.

Sefydlwyd Pisys.net yn 2003 ac erbyn hyn mae’n un o’r prif gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau TG allanol, i fusnesau bach newydd a sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Mae’r busnes yn ehangau ledled Prydain trwy gynnig cyfleoedd masnachfreinio i unigolion medrus o feddwl tebyg. Gyda masnachfreintiau o Inverness i Gaerdydd, mae tîm Pisys.net wedi tyfu i 22.

Ar ôl recriwtiio 18 o brentisiaid dros y degawd diwethaf, mae gan y cwmni dri ar hyn o bryd sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn Gwaith Proffesiynol mewn TG, Meddalwedd a Thelathrebu a gyflenwir gan ITeC Abertawe.