Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Sally Hughes

Mae Sally Hughes yn edrych ymlaen at yrfa ddifyr gyda Tata Steel ym Mhort Talbot ac yn gobeithio ysbrydoli merched eraill i ddilyn gyrfa wyddonol.

Sally oedd yr unig ferch mewn grŵp o brentisiaid technegol a gychwynnodd gyda’r cwmni ym Mhort Talbot ym mis Medi 2016 ac mae’r ferch ifanc 19 oed yn benderfynol o gyflawni ei photensial trwy fanteisio ar bob cyfle a gaiff, yn cynnwys cael ei dewis i ymweld â gwaith Tata Steel yn yr Iseldiroedd o dan raglen Erasmus+.

Mae Sally wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol) ynghyd â Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymwysedig yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe. Ei bwriad yn awr yw gwneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) ac HNC mewn Cemeg Gymwysedig, ac yna radd ym Mhrifysgol Abertawe.