Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Stella Vasiliou

Mae Stella Vasiliou, 19 oed, wedi dangos nad oes raid llwyddo mewn arholiadau ysgol er mwyn serennu yn eich gyrfa.

Mae gan Stella, sy’n byw yn y Barri, yrfa addawol fel saer gyda Chyngor Bro Morgannwg er iddi dreulio blwyddyn yn astudio celf a dylunio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Trwy'r darparwr hyfforddiant ACT Training, dysgodd am nifer o yrfaoedd posibl yn cynnwys gwaith adeiladu. Cwblhaodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Adeiladu mewn dim ond saith mis ac fe arweiniodd lleoliad gwaith gyda Chyngor Bro Morgannwg at Brentisiaeth mewn Gwaith Coed, wedi’i chyflenwi gan Goleg Caerdydd a’r Fro.

“Hoffwn i brofi i bobl eraill sy’n gadael yr ysgol nad graddau yw popeth,” meddai Stella. “Gallwch chi fod yn llwyddiannus mewn ffyrdd eraill.”