Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Thomas Martin

Mae’r prentis cogydd Thomas Martin wrth ei fodd yn coginio ac mae eisoes wedi cael profiad o weithio yn rhai o fwytai gorau Llundain.

Ac yntau’n 22 oed, mae’n gobeithio cael gwireddu ei uchelgais o agor bwyty yng Nghaerdydd i hyrwyddo cynhwysion gorau Cymru.

Ar ôl dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol gyda'r darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae’n bwriadu symud ymlaen i wneud Prentisiaeth y flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn Holm House Hotel, Penarth.

Enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn 2018 a daeth yn agos at y brig yng nghystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru.