Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Thomas Watkins

Mae Thomas Watkins yn benderfynol o gael gyrfa yn y byd amlgyfrwng er bod anhwylder ar y sbectrwm awtistig yn amharu ar ei leferydd.

Llwyddodd Thomas, 26 oed, o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr y Cyfryngau Rhyngweithiol) trwy'r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru wrth weithio i White Hart Multimedia.

Enillodd Thomas wobr Prentis y Flwyddyn y Diwydiannau Creadigol yng Ngwobrau'r Gynghrair Sgiliau Ansawdd (QSA) yng Nghaerdydd eleni ac roedd wedi cwblhau HND mewn Dylunio yn y Cyfryngau Digidol yng Ngholeg Pen-y-bont cyn sicrhau’r brentisiaeth yn y maes amlgyfrwng.

Ar ôl cwblhau prosiect ffilm ar gyfer clwb dawns mewn ysgol, mae wedi datblygu dawn i brofi modiwlau eDdysgu a systemau adrodd digidol ac i greu graffeg ar gyfer y pecynnau rhyngweithiol.