Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Urdd Gobaith Cymru

 Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, mae Urdd Gobaith Cymru yn arwain y ffordd gyda Rhaglen Brentisiaethau arloesol.

Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd, trwy gyfrwng y Gymraeg, i holl bobl ifanc Cymru chwarae rhan gadarnhaol mewn cymdeithas gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.

Trwy eu Rhaglen Brentisiaethau mae pobl ifanc yn cael cyfle i weithio a hyfforddi yn y sector chwaraeon a gweithgareddau awyr agored trwy hyfforddiant NVQ, gan ddilyn Lefel 2 mewn Arwain Gweithgareddau yn y flwyddyn gyntaf a Lefel 3 mewn Datblygu Chwaraeon yn yr ail flwyddyn.

Fel is-gontractor i ACT Limited, mae Urdd Gobaith Cymru yn gyflogwr ac yn ddarparwr dysgu ac, ar hyn o bryd, mae 34 o brentisiaid ar eu llyfrau.