Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Anelu’n Uchel Blaenau Gwent yn llenwi’r bwlch mewn sgiliau trwy Raglen Rhannu Prentisiaethau sy’n anadlu bywyd newydd i weithlu’r ardal.

Mae’r awdurdod lleol wedi hen arfer â’r drefn o gylchdroi prentisiaid ymhlith cyflogwyr ac mae Anelu’n Uchel, Glynebwy wedi teilwra cyrsiau a threfnu hyfforddiant i ateb anghenion dysgwyr trwy gynnig cyfleoedd ychwanegol yn un o ardaloedd tlotaf Cymru.  Hyd yma, mae’r holl brentisiaid wedi cael swyddi ar ddiwedd eu rhaglen, gyda 64% yn aros gyda’r cyflogwr lle gwnaethant eu prentisiaeth. 

Mae Anelu’n Uchel yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Bwrdd Parth Menter Glynebwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bu’n datblygu ei Raglenni Hyfforddi gyda Coleg y Cymoedd.