Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

British Airways Maintenance Cardiff

Mae prentisiaid British Airways Maintenance Cardiff (BAMC) yn anelu’n uchel yn y diwydiant awyrennau trwy raglen brentisiaethau sy’n creu llif o dalent er budd y sector cyfan.

Ers i BAMC gyflwyno’r rhaglen 10 mlynedd yn ôl, bu’n cydweithio â’r darparwr hyfforddiant, Coleg y Cymoedd, i gynnwys modiwlau diwydiant-benodol sy’n cynnig profiad gyda’r gorau yn y byd i’w brentisiaid yn lle mathau hyfforddiant nad oedd yn berthnasol i’r sector.

Mae’r cwmni’n credu’n gryf mai BTEC Lefel 3 a Diploma Estynedig NVQ mewn Peirianneg Awyrenegol yw’r llwybr gorau i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn cynnal a chadw awyrennau, er mwyn iddynt ddod yn beirianwyr cymwys a medrus.