Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Does dim lle i gamgymeriadau wrth ddarparu gofal iechyd i 390,000 o bobl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o’r farn bod ei Raglen Brentisiaethau’n datblygu gweithle newydd, dyfeisgar a deallus ar gyfer y dyfodol.

Ers i’r Bwrdd greu Academi Brentisiaid gyda chefnogaeth Academi Sgiliau Cymru tua diwedd 2016, penodwyd dros 200 o brentisiaid ac mae dros 600 o staff presennol wedi cymryd rhan mewn rhaglenni ar 12 o fframweithiau dysgu.  Yn ogystal â llwyddo i ddenu ymgeiswyr dawnus trwy lwybrau gwahanol i’r arfer, mae’r Academi wedi galluogi staff presennol i gynyddu eu sgiliau a dringo'r ysgol yn eu gyrfa.

Mae’r Academi’n cydweithio’n rheolaidd ag ysgolion, colegau a chanolfannau gwaith lleol i hyrwyddo cyfleoedd.