Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Bu Carrie-Anne Anthony yn byw gydag epilepsi ers blynyddoedd. A hithau’n tyfu i fyny ger Aberdâr, byddai’n mynd i’r ysbyty’n aml achos y ffitiau a rhoddwyd hi mewn coma am bedwar mis. Collodd gysylltiad â’i ffrindiau, a chollodd ei hyder a’i chof tymor byr.

Ond gyda help y darparwr hyfforddiant PeoplePlus Aberdâr, mae wedi ffynnu, gan lwyddo i gwblhau modiwlau Hyfforddeiaeth Ymgysylltu cyn symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1. Y cam nesaf fydd lleoliadau rheolaidd mewn ysgol gynradd a’i nod yw gweithio llawn amser ym myd gofal plant.

Meddai Carrie-Anne:

“Mae PeoplePlus wedi fy helpu i ddod allan o fy nghragen. Collais fy mam i epilepsi a bu’n rhan enfawr o fy mhlentyndod ond rwy’n gwneud pethau yn awr na fyddwn erioed wedi breuddwydio y gallwn eu gwneud.”