Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Ensinger

Ysgol brentisiaethau, hyfforddwr prentisiaid llawn amser a buddsoddi £150,000 mewn peiriannau i wella’r hyfforddiant ymarferol – dyna dri o’r camau mae cwmni plastigau peirianneg Ensinger o Donyrefail wedi’u cymryd i sicrhau y gall gynnal gweithlu o safon uchel.

Mae’r 8 prentis presennol yn gweithio tuag at gymwysterau Peirianneg Lefel 2 a 3 gyda chefnogaeth Coleg y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont,  Newport and District Training Association a TSW Training.  Mae’r cwmni’n cyhoeddi defnyddiau hyrwyddo i sicrhau nad yw anabledd, ethingrwydd na rhywedd yn rhwystro pobl rhag cychwyn ar y rhaglen.

Dywedodd Gary Davies, Cyfarwyddwr Ensinger:

“Mae prentisiaid yn dod ag egni, brwdfrydedd ac arloesedd i’n cwmni ni.”