Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Hayley Lewis ar flaen y gad ym maes dysgu seiliedig ar waith yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc). Trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y person, mae Hayley, o Hwlffordd, yn aelod uchel ei pharch o’r tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn TSW, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae ei dull “cryf ond cefnogol” o weithio yn llwyddo i gael y gorau o’i dysgwyr trwy asesiadau un-i-un yn y gweithle a thrwy hwyluso gweithdai. Gyda’i gwybodaeth eang a thrwyadl am ei maes, gall Hayley sicrhau bod ei dysgwyr yn deall newidiadau mewn deddfwriaeth ac yn eu cymhwyso i amgylchiadau penodol eu gweithle.

Mae’n ymwneud â chyflogwyr o’r dechrau’n deg ar raglenni dysgu er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth effeithiol.