Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae holl brentisiaid ITV Cymru wedi mynd ymlaen i waith llawn amser yn y diwydiannau creadigol ac mae bron 90% o’r rhai a fu’n rhan o’r rhaglen yn anabl, yn bobl dduon neu Asiaidd neu'n perthyn i leiafrifoedd ethnig, neu dan anfantais gymdeithasol.

Dywedodd Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV, Phil Henfrey:

“Rydym yn credu’n gryf y byddwn ni fel busnes yn dysgu cymaint gan ein prentisiaid ag y gallwn ni ei ddysgu iddyn nhw. Trwy fod yn gynhwysol, rydym wedi cyfoethogi ein gweithlu ac wedi hybu dyfeisgarwch.”

Mae pedwar prentis yn gweithio ar Brentisiaeth yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol, a Sgil Cymru yn cefnogi’r hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth. Maent yn cael profiad eang o waith cynhyrchu ar gyfer y teledu.