Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Jamie Stenhoff

Mae Jamie Stenhoff sy’n beiriannydd dylunio wedi codi eto i serennu gyda’r cwmni awyrofod Airbus ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith. Collodd Jamie, sy’n 24, ei waith pan gaewyd safle Marshall Aviation Services ym Mrychdyn gerllaw. 

Cefnogwyd ef gan Airbus i gwblhau prentisiaeth yr oedd wedi’i dechrau gyda’i gyflogwr blaenorol ac erbyn hyn mae ganddo res o gymwysterau, yn cynnwys Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf (BEng) mewn Peirianneg Awyrenegol a Gweithgynhyrchu.  Enillodd ei gymwysterau trwy Goleg Cambria ac maent yn amrywio o Brentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth Uwch i Lefel 6 mewn Gweithgynhyrchu Datblygedig. 

Mae Jamie’n hybu dyfeisgarwch trwy newidiadau dylunio a gwella ansawdd a llwyddodd i arbed 50,000 Ewro y flwyddyn i Airbus gydag un o’i gynlluniau.