Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Katie Parry

Gadawodd Katie Parry y chweched dosbarth i geisio gwireddu ei breuddwyd o redeg busnes trin gwallt llwyddiannus. Bedair blynedd wedyn, mae ganddi ei busnes ei hun, KT's Salon Ladies & Gents, ym Mangor sydd mor brysur fel ei bod yn gobeithio symud i le mwy yn y flwyddyn newydd.

Yn ôl Katie, 23 oed, o Fangor, mae’n llwyddo diolch i’r sgiliau a’r wybodaeth a gafodd trwy wneud prentisiaethau mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr trwy Busnes@LlandrilloMenai. Mae’n gobeithio gwneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Trin Gwallt yn awr. 

Meddai Katie:

“Mae Rhaglen y Brentisiaeth wedi rhoi llawer iawn o gyfleoedd i mi i helpu i feithrin fy sgiliau a fy hyder er mwyn llwyddo i agor fy musnes fy hunan,” meddai. “Os dilynwch eich breuddwydion, mae unrhyw beth yn bosib.”