Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Bu Hyfforddeiaeth Lefel 1 trwy PeoplePlus Cymru – Merthyr yn hwb fawr i yrfa Marcio Paixo, 17 oed. Datblygodd ei sgiliau’n sydyn iawn ar ôl cychwyn ar leoliad yn siop farbwr Lazarou Bros gyda’r perchennog, Andreas.

Ganed Marcio ym Mhortiwgal a symud i Ferthyr Tudful at ei fodryb pan oedd yn 8 oed. Er iddo gael ei fwlio yn yr ysgol, gwnaeth yn dda gan ennill wyth TGAU â graddau A-C. Erbyn hyn, mae Marcio am wneud Prentisiaeth Sylfaen gyda Lazarou Bros ac, yn ogystal â thorri gwallt llawer o gleientiaid i safon uchel, mae’n datblygu gyrfa fel model.

Dywedodd Ryan James, Tiwtor gyda PeoplePlus Merthyr:

“Mae gan Marcio holl rinweddau dysgwr y flwyddyn, gan ragori ar ei ddisgwyliadau er iddo wynebu heriau pan oedd yn iau.”