Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Melissa O’Connor

Mae polisi o annog dysgwyr i beidio â bodloni ar y cyfarwydd yn talu ar ei ganfed i Melissa O’Connor, o Portal, Caerdydd, sy’n dal i arwain trwy esiampl. 

Mae Melissa, a fu’n ddarlithydd prifysgol, yn annog dysgwyr sy’n dilyn Prentisiaeth Uwch mewn Arwain a Rheoli mewn nifer o wahanol sectorau i anelu’n uchel trwy ymgeisio am ddyrchafiad tra byddant yn dal yn dilyn eu hyfforddiant.  Trwy hynny, mae llawer wedi dringo ysgol gyrfa’n gynt na’r disgwyl, gyda phedwar allan o chwech yn un o’i sefydliadau yn cyrraedd swyddi uchel/cael dyrchafiad o fewn 12 mis i ddechrau ar eu cyrsiau.

Mae Melissa wir yn llysgennad dros addysg gydol oes a dysgu seiliedig ar waith gyda’i chymwysterau ei hunan.