Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Molly Jones

Ar leoliad gwaith, gwelwyd hyder Molly Jones, 17 oed, yn codi fel y cacennau roedd yn eu pobi a'u haddurno. Oherwydd Syndrom Lludded Cronig gadawodd Molly, o Ben-arth, addysg brif lif ym Mlwyddyn 8 ond trwy'r darparwr hyfforddiant People Business Wales, cwblhaodd raglen ‘Tîm’ 12 wythnos Ymddiriedolaeth y Tywysog a symud ymlaen i hyfforddiant pellach.

Bu lleoliad gwaith yn Let Them See Cake, Caerdydd yn hwb i’w hyder ac, er mai pobi yw ei hoff hobi, mae wedi symud ymlaen i gwrs Harddwch Lefel 1 gyda’r darparwr hyfforddiant ACT Limited.

Meddai Molly:

“Mae’r rhaglen Ymgysylltu wedi fy helpu i fod y person ydw i heddiw. Rwy’n edrych mewn ffordd aeddfetach ar bethau fyddai wedi fy ngwneud yn bryderus o’r blaen. ”