Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Shannon Harding

Roedd Shannon Harding, 18 oed, o Ferthyr Tudful, yn hoffi celf yn yr ysgol ac mae am wneud gyrfa’n paentio ac addurno. Bu’n llwybr anodd i Shannon ei ddilyn. Bu mewn gofal, yn cael cefnogaeth gweithiwr cymeithasol, dewisodd gwrs coleg anaddas a bu’n cael pyliau o iselder. 

Trwy’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus, gwelodd Shannon fod yr Hyfforddeiaeth Lefel 1 yn cydnabod ei thrafferthion gan arwain at brofiad gwaith gyda CBD Decorating. 

Dywedodd Shannon:

“Rwy wrth fy modd yn paentio ac addurno. Hoffwn i wneud prentisiaeth a dechrau fy musnes fy hunan. Dyna yw fy mreuddwyd.”