Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Compact Orbital Gears Ltd

Bu datblygu gweithlu hyblyg â sgiliau amrywiol yn help i sicrhau bod Compact Orbital Gears yn enw blaenllaw yn y diwydiant gêrs arbenigol ers dros hanner canrif.

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 43 yn Rhaeadr Gwy, yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu gêrs pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni glân.

Y gallu hwn i gynnig cynnyrch wedi’i gynllunio’n arbennig yw’r allwedd i lwyddiant y cwmni. Sefydlwyd Compact Orbital Gears yn yr 1960au ac mae’n ymfalchïo yn ei weithlu medrus, ei ysbryd  teuluol a’i hanes maith o gyflogi prentisiaid o’r Canolbarth.

Mae gan y cwmni dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach a ddarperir gan Myrick Training a Grŵp Colegau NPTC, Campws y Drenewydd.

Mae’r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu’r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain.