Connor Paskell
Rownd derfynol
![Connor Paskell](/sites/default/files/campaign-case-studies/2021-02/Connor%20Paskell%20960%20x%20640.jpg)
Mae gyrfa Connor Paskell wedi codi’n uchel ers iddo gychwyn prentisiaeth gyda British Airways Avionic Engineering (BAAE) yn Llantrisant.
Roedd Connor, 21, sy’n byw yn Llantrisant, yn benderfynol o gychwyn gyrfa mewn peirianneg ac aeth ar gwrs peirianneg llawn-amser yng Ngholeg y Cymoedd tra oedd yn gweithio rhan-amser mewn meithrinfa.
Talodd ei ymroddiad ar ei ganfed iddo, gan iddo ennill cymhwyster Peirianneg Uwch BTEC â rhagoriaeth ac ennill gwobr Prentis Peirianneg y Flwyddyn yn y Coleg.
Ymunodd Connor â BAAE yn 2018 a disgwylir iddo gwblhau ei brentisiaeth fel peiriannydd awyrennau ym mis Awst. Mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud HNC.
Dywedodd Martine Roles, rheolwr adnoddau dynol gyda BAAE yn Llantrisant:
“Mae Connor wedi dod yn rhan bwysig o’r busnes yn ystod ei brentisiaeth ac ef yw’r dewis cyntaf i weithio ar nifer o brosiectau. Mae’n anelu at berffeithrwydd ac yn ei gyrraedd.”