Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Heddlu Dyfed-Powys

Llwyddodd y llu heddlu sydd â’r dasg o ofalu am yr ardal fwyaf o ran maint yng Nghymru i drawsnewid eu proses recriwtio ar ôl i’w rhaglenni dysgu seiliedig ar waith dalu ar eu canfed iddynt.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi llwyddo i gyflogi 200 o brentisiaid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae dros 150 ohonynt yn dal i weithio i’r sefydliad gan ddilyn un o’r deg cwrs a ddarperir gan hyd at naw darparwr dysgu.

Gall y llu addasu eu Rhaglenni Prentisiaethau i sicrhau bod yr hyn y mae pob un yn ei ddysgu yn berthnasol i’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i’r cyhoedd.

Yn ogystal ag agor y drws i bobl newydd, mae ffeiriau gyrfaoedd mewnol yn annog aelodau’r staff i ddatblygu eu gyrfa a symud ymlaen, gan lenwi bylchau sgiliau â phobl fedrus, wybodus a brwd.