Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Jessica Apps

Symudodd Jessica Apps o ben draw’r byd i gychwyn bywyd newydd ym Mlaenafon gyda’i mam a’i chwaer iau ym mis Tachwedd 2019 ac erbyn hyn fe’i disgrifiwyd fel “esiampl ddisglair” wrth iddi anelu at yrfa fel athrawes.

Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar Hyfforddeiaeth gyda Sgiliau Cyf yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol. Yn awr mae’n astudio ar gyfer ei Lefelau A gyda’r nod o fynd yn athrawes. 

Meddai Jessica:

“Ymuno â Sgiliau i wneud yr Hyfforddeiaeth oedd y penderfyniad gorau a wnes i. Ar ôl dim ond pum mis, roeddwn i’n teimlo mor hapus a bodlon yn fy mywyd newydd ac ro’n i’n cymryd y camau nesaf tuag at swydd fy mreuddwydion.”