Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Lewis O'Neill

Mae Lewis O’Neill, 17, o Garden City, Glannau Dyfrdwy wedi troi cornel yn ei fywyd ac mae’n edrych ymlaen at yrfa ym maes clustogwaith dodrefn diolch i Raglenni Hyfforddeiaethau gan Lywodraeth Cymru.

Mae Lewis wedi cwblhau Rhaglenni Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 a Dyfarniad Estynedig City & Guilds Lefel 1 mewn Cyflogadwyedd. Roedd wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau a bu trwy’r system gyfiawnder cyn dechrau gweithio gyda Coleg Cambria.

“Erbyn hyn, mae gen i swydd dda a rhagolygon da ac rwy’n gobeithio y gall fy stori i ysbrydoli rhywun arall,”

meddai Lewis sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Clustogwaith Dodrefn.

Hoffai Lewis gael gyrfa lle caiff weithio gyda’i ddwylo ac erbyn hyn mae’n brentis gyda Westbridge Furniture, ar ôl creu argraff yno ar leoliad gwaith.