Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Lydia Harris

A hithau wedi gweithio i JGR Training, Pen-y-bont ar Ogwr ers degawd, mae Lydia Harris o’r farn mai hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a sgiliau trefnu da sy’n gyfrifol am ein llwyddiant yn hyfforddi rheolwyr.

Ymhlith yr heriau mae Lydia wedi’u hwynebu’n ddiweddar mae dod yn gyfrifol am waith Sgiliau Hanfodol JGR, ymrwymo i ddysgu Cymraeg a gweithio tuag at Ddiploma Lefel 4 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Dywedodd Lydia, sy’n 37:

“Roedd fy enwebiad yn dipyn o sioc ond mae’n braf cael eich cydnabod ac rwy’n credu fy mod i wir yn mynd yr ail filltir yn fy ngwaith.”

Dywedodd Delyth Lewis, un o’r dysgwyr:

“Heb amynedd ac arbenigedd Lydia, fyddwn i ddim wedi cael y fath flas ar ddysgu nac wedi bod mor frwd.”