Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Owain Carbis

Dychmygwch pa mor gyffrous fyddai cael cyfle i greu a helpu i reoli negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cyfres deledu eiconig ar y BBC a chithau’n ddim ond 19 oed.

Dyna’n union ddigwyddodd i Owain Carbis, bachgen dawnus o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, yn ystod ei brentisiaeth gydag adran ddigidol a marchnata BBC Cymru.

Roedd fel gwireddu breuddwyd i Owain, sy’n weithiwr llawrydd erbyn hyn, gan ei fod wrth ei fodd â’r gyfres. Cafodd ei waith, a welwyd gan filiynau o bobl ym mhedwar ban byd, ganmoliaeth fawr gan rai o’i gydweithwyr profiadol yn y BBC.

Darparwyd Prentisiaeth Owain yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol gan Sgil Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.