Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Ross Vincent

Mae Ross Vincent yn paratoi am yrfa ym myd adeiladu, ar ôl cymryd diddordeb mewn gosod brics tra oedd yn gwneud Hyfforddeiaeth.

Ar ôl yr Hyfforddeiaeth, mae Ross, 18, sy’n byw yn Noc Penfro, wedi mynd ymlaen i sicrhau prentisiaeth gydag Evan Pritchard Contractors yn Hwlffordd, lle mae ei dad, Carl, yn rheolwr safle.

Ac yntau wedi cwblhau Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 mewn Gwaith Brics, mae’n gweithio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Gosod Brics a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Daear, y cyfan yng Ngholeg Sir Benfro.

Ar ôl wynebu heriau ar gwrs arall yn y coleg, dywedodd Ross ei fod yn benderfynol o lwyddo a dilyn gyrfa yn y maes. Roedd yr Hyfforddeiaethau yn ei siwtio’n well am fod mwy o waith ymarferol a’i fod cael dysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol yn y maes.