Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Thomas Skip & Plant Hire Ltd

Mae prentisiaethau dwyieithog yn allweddol i dwf Thomas Skip and Plant Hire, cwmni annibynnol llwyddiannus ym maes sgipiau a rheoli gwastraff yn y gogledd.

Cwmni o Gaernarfon ydyw a, gan fod cynifer o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg, mae’r cwmni o’r farn ei bod yn bwysig i’r staff ddysgu trwy gyfrwng yr iaith.

Mae prentisiaethau, a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian, yn helpu’r cwmni i gadw staff yn hirach, cynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a dysgu mwy am y diwydiant gwastraff.

Mae Thomas Skip and Plant Hire, sydd â thri phrentis mewn gweithlu o 10, yn ymroi i warchod yr amgylchedd trwy gadw cymaint o wastraff ag y bo modd rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

“Credwn y bydd gweithwyr hapus, sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac yn gallu gweithio’n ddiogel, yn ein helpu i gadarnhau ein henw da a pharhau i dyfu,”

meddai Natasha Thomas, sy’n rhedeg Thomas Skip and Plant Hire gyda’i phartner Iestyn Thomas.