Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Wales England Care Ltd

Dywed cwmni gofal cartref Wales England Care Ltd fod ei Raglen Brentisiaethau’n hanfodol i’w gynlluniau i dyfu a’i bod eisoes wedi hybu ei berfformiad ac ansawdd ei waith, gan sicrhau bod staff yn aros yn hirach.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, dywed y cwmni o Gasnewydd fod ei Raglen Brentisiaethau wedi cyfrannu at gynnydd o 57% mewn gwerthiant a sgôr cymderadwyaeth o 98% gan gleientiaid. Gwnaed hyn trwy wella sgiliau, hyder ac effeithlonrwydd ei staff a lleihau costau, gan arwain at gynnydd o 177% mewn incwm net.

Mae cryn dipyn yn llai o fynd a dod ymhlith y staff ers i’r prentisiaethau gael eu cyflwyno ac mae’r oriau gofal a ddarperir bob wythnos wedi cynyddu o 200 i 1,000 ers 2017.

Mae Wales England Care yn ymroi i gynnig gofal o’r safon uchaf. Mae ganddynt weithlu o 42, yn cynnwys 13 o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefelau 2 i 5. Darperir yr hyfforddiant gan ei chwaer gwmni, Wales England Care Training.