Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Anya O'Callaghan

Mae'r penderfyniad i recriwtio Anya O'Callaghan yn swyddog marchnata, addysg a datblygu busnes yn talu ar ei ganfed i salon gwallt arobryn Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach.

Mae Anya, 25, yn gweithio tuag at Brentisiaeth yn y Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau gyda'r darparwr hyfforddiant Educ8. I ddechrau, cyflogwyd hi i weithio rhan-amser i drefnu gweithdai hyfforddi ar-lein gyda chyflenwyr y cwmni yn ystod cyfnodau clo'r pandemig.

Erbyn hyn, mae Anya'n gweithio llawn amser ac mae'n “ased amhrisiadwy” i’r busnes. Mae ei swydd wedi’i hymestyn i gynnwys datblygu busnes, recriwtio prentisiaid, datblygu'r wefan, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a gwneud dysgu’n fwy hwylus i brentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae perchennog y busnes, Janine O'Callaghan, wrth ei bodd â gwaith ei merch ac yn disgwyl iddi roi hwb o 12% i drosiant y cwmni eleni.