Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Boglarka-Tunde Incze

Mae prentisiaethau’n helpu Boglarka-Tunde Incze, sy'n arweinydd tîm gofal cartref, i wneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl y mae hi’n gofalu amdanynt ac yn gweithio gyda nhw.

I ddechrau, defnyddiodd Boglarka, sy’n byw yn Llanrug, y Radd Baglor mewn Cyfrifiadureg, a enillodd yn Rwmania, i weithio i gwmnïau rhyngwladol.

Cymerodd swydd ychwanegol fel gofalwr rhan amser, yn cefnogi pobl yn eu cartrefi a, gan ei bod yn mwynhau'r gwaith gymaint, newidiodd yrfa yn ystod y pandemig.

Mae wedi cwblhau Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment a hoffai gymhwyso fel asesydd.

O Rwmania y daw Boglarka yn wreiddiol. Mae’n dysgu Cymraeg ac yn gweithio rhan amser i Gofal Bro Cyf ac fel cynorthwyydd gofal iechyd lliniarol gyda Marie Curie.