Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae rhaglen brentisiaethau flaengar yn cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol i wynebu’r heriau a ddaw gan fod poblogaeth Cymru’n heneiddio.

Ar ôl canfod y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru'n 65 oed neu drosodd erbyn 2036, datblygodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei strategaeth bedair blynedd yn ôl i ymgorffori dysgu seiliedig ar waith.

Y llynedd, lansiodd y Bwrdd y Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Gwyddor Gofal Iechyd (HCS) – y gyntaf o’i math yng Nghymru – mewn partneriaeth â’r darparwr hyfforddiant, Educ8 Training.

Mae’r Brentisiaeth Uwch yn pontio’r bwlch oedd rhwng prentisiaethau Lefel 3 ym maes iechyd a gradd gan alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i fod yn wyddonwyr cofrestredig. Mae dros 550 o staff wedi manteisio ar brentisiaeth.