Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Chrystalla Moreton

Mae prentis peirianneg o'r enw Chrystalla Moreton yn awyddus i fod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac, yn ôl ei chyflogwr, mae’n “seren ddisglair”.

Mae Chrystalla, 20, o’r Tyllgoed, Caerdydd, yn gweithio i'r cwmni dur cyfnerthedig Celsa Steel yn y ddinas ac mae’n gwneud Prentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW.

Bu’n rhaid iddi newid ei chynllun gwreiddiol o ymuno â’r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol a effeithiodd ar ei hiechyd meddwl. Mae’n benderfynol o wneud iawn am yr amser a gollwyd, chwifio'r faner dros beirianwyr benywaidd a pharhau i gefnogi ei theulu.

“Ar ôl cyfnod isel, mae hwn yn drawsnewidiad enfawr.”