Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Evan Coombs

Llwyddodd PCI Pharma Services i daro ar aur pan ymunodd Evan Coombs, prentis dadansoddwr labordy, â’r busnes trwy Raglen Rhannu Prentisiaethau Anelu'n Uchel Blaenau Gwent.

Enillodd Evan, 19, o Flaenafon, fedal aur yn y categori Technegydd Labordy yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. Mae’n cael ei ganmol am ei waith ardderchog ac mae wedi arbed amser ac arian i’w gyflogwr â’r data a gasglodd ar gyfer prosiect gwelliant parhaus. Arweiniodd hynny at gyflogi dau dechnegydd.

Mae Evan yn gweithio tuag at Brentisiaeth Technegydd Labordy a Gwyddoniaeth a ddarperir gan Goleg y Cymoedd, ac yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 mewn Cemeg Gymhwysol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae’n cael ei gyflogi gan PCI Pharma Services ac Anelu'n Uchel Blaenau Gwent ar y cyd.