Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

FSG Tool and Die

Mae gan gwmni FSG Tool and Die, Llantrisant, enw da yn rhyngwladol oherwydd sgiliau eithriadol ei brentisiaid sydd wedi helpu i wella proses weithgynhyrchu’r cwmni.

Mae prentisiad y cwmni gwneud tŵls a deiau yn serennu mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ac maent wedi helpu i symleiddio ei broses weithgynhyrchu, gan wella effeithlonrwydd o chwech y cant.

Yn ogystal, maent wedi dyfeisio batris llai ar gyfer ceir trydan ar gais cwsmer ac maent yn treialu deunyddiau gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwyrddach.

Mae dros 90 yn gweithio i FSG Tool and Die, yn cynnwys 12 o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau hyd at lefel gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW Training a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.